Beth yw’r
map Cymuned?

Mae map Cymuned yn darparu deunyddiau ategol i gefnogi dysgwyr 7-16 oed ac ymarferwyr i ddysgu ac addysgu am hanes amrywiaeth o gymunedau lleiafrifol yng Nghymru. Mae’r map yn adlewyrchu Cymru ddoe a heddiw, ein treftadaeth ddiwylliannol amrywiol, ein gwerthoedd a thraddodiadau ein cymunedau.

Mae 40 o gofnodion yn y map cychwynnol sy’n ein tywys ar daith trwy Gymru a hanes cyfoethog ei chymunedau amrywiol.  Mae’r map yn cyflwyno hanesion modelau rôl sy’n ysbrydoli ac yn datgelu rhai o ddigwyddiadau mwyaf arwyddocaol hanes cymunedau lleiafrifol Cymru. O stori gyffrous ysbīwyr dewr Iddewig yn Aberdyfi, i hanes pêl-droediwr Nepalaidd-Gymreig  dawnus yn Aberhonddu.  Rydyn ni’n dathlu straeon ymgyrchwyr gwrth-hiliaeth, gwyddonwyr, athletwyr, beirdd, cerddorion a mwy. Ein gobaith yw y bydd map Cymuned yn sbarduno dysgu ac yn fan cychwyn taith gyffrous i’r dysgwr.

Mae map Cymuned yn astudio hanes a straeon amrywiol Cymru, sy’n rhan bwysig o’r gwaith o fodloni dibenion y Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr adnodd hwn yn tyfu dros y bum mlynedd o’r dyddiad cyhoeddi, gyda thri lleoliad o ddiddordeb yn cael eu hychwanegu ar y map bob tymor ysgol. Erbyn 2028 bydd cyfanswm o 85 lleoliad o ddiddordeb ar y map. Cofiwch ddod ‘nôl i ymweld â’r map Cymuned wrth iddo ddatblygu ac esblygu.